Gwybodaeth a Pholisïau First Hydro
Mae’r dudalen hon yn ymwneud â darparu manylion cynhwysfawr am ein polisïau diogelwch a mentrau amgylcheddol. Yn First Hydro, rydym yn blaenoriaethu diogelwch a chynaliadwyedd ein gwaith, gan sicrhau bod ein prosiectau yn cael yr effaith amgylcheddol lleiaf posib tra’n darparu atebion ynni dibynadwy.
Tir Mynediad Agored
Mae First Hydro Company yn derbyn yr angen i ddarparu dyletswydd gofal lle mae risgiau y gellid yn rhesymol ddisgwyl i ni gynnig amddiffyniad yn eu herbyn. Nid yw’r ddyletswydd hon yn ymestyn i bobl sy’n fodlon derbyn risgiau, fel cerddwyr a dringwyr. Serch hynny, mae angen i ni ystyried y sefyllfa’n ofalus iawn er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith a phenderfynu ar yr hyn y gellid yn rhesymol ei ddisgwyl gennym i ddiogelu’r cyhoedd tra byddant ar ein tir.
Cyflawnir hyn drwy roi ystyriaeth i fynediad cyhoeddus yn asesiad risg busnes First Hydro Company. Bydd y risgiau sy’n gysylltiedig â thasgau gwaith penodol ar ein tir yn cael eu hasesu’n unigol.
O dan y ‘Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000’ nid oes gan First Hydro Company unrhyw ddyletswydd gofal o ran y risgiau sy’n deillio o nodweddion naturiol, afonydd, nentydd, pyllau, clogwyni, ffosydd neu gamddefnyddio waliau, ffensys neu gatiau ar eu tir, oni bai eu bod yn creu’r risg yn fwriadol neu’n caniatáu iddo godi’n
ddi-hid.
Polisïau Cymdeithasol
Mae First Hydro Company wedi ymrwymo i gynnal y lefelau uchaf o ran ansawdd, ymwybyddiaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, cyfrifoldeb ac uniondeb. Mae First Hydro Company yn cydnabod goblygiadau ei weithrediadau ac yn ystyriol o’i effaith ar yr amgylchedd, ei bobl ac eraill. Rydym wedi ymrwymo i welliannau mewn perfformiad amgylcheddol ac wedi ein hardystio yn ISO 14001 ac OHSAS 18001 yn ein Gorsafoedd Pŵer a’n Canolfan Ymwelwyr.
Cysylltiadau Cymunedol
Canllawiau ar Gwblhau’r Ffurflen Nawdd a Rhoddion
Mae First Hydro Company yn rhoi blaenoriaeth uchel i’w rôl fel noddwr ar gyfer ystod eang o fentrau sydd o fudd i gymunedau lleol, addysg, chwaraeon, y celfyddydau a’r amgylchedd.
Mae First Hydro Company wedi cyfrannu at naw ar hugain o brosiectau gwahanol yn 2015, gan helpu i lwyddo mewn ystod o weithgareddau a phrosiectau sydd o fewn radiws o 10 milltir yn gyffredinol i’r ddwy orsaf bŵer yng Ngwynedd.
Dyma rai o’r meysydd y mae First Hydro wedi’u cefnogi
- Clybiau Canŵio/Caiacio
- Rasys Marathon, Rhedeg yn y Mynyddoedd a Rasys Rhwystrau
- Timau Pêl-droed/Beicio/Rygbi/Criced i Oedolion/Ieuenctid
- Gwarchodfeydd Natur
- Treialon Cŵn Defaid
- Cymdeithasau Archaeolegol/ Hen Offer
- Timau Achub Mynydd
Ymrwymiad FHC
Byddwn yn neilltuo’r rhan fwyaf o’r gyllideb nawdd a rhoddion ar weithgareddau y bydd eu prif effaith o fudd i’r cymunedau lleol rydym yn gweithredu ynddynt ac yn y meysydd canlynol:
- Mentrau addysgol
- Diwylliant a’r Celfyddydau
- Mentrau amgylcheddol
- Iechyd a Chwaraeon
- Cefnogi ymdrechion ein staff mewn prosiectau cymunedol
Byddai hyn yn ychwanegol at gefnogi rhaglenni addysgol fel profiad gwaith o ysgolion a cholegau, yn ogystal â lleoliadau i fyfyrwyr Graddedig.
Mae First Hydro hefyd yn helpu staff drwy roi arian cyfatebol i’r rhai sy’n codi arian ar gyfer elusennau lleol, boed hynny’n rhedeg mewn rasys/marathonau, neu’n cynnal digwyddiadau fel nosweithiau cwis, neu’n cwblhau diwrnodau casglu arian mewn archfarchnadoedd.
Gwybodaeth am Wneud Cais
Dylai ceisiadau gynnwys cymaint o fanylion â phosib, gan gynnwys dadansoddiad llawn o’r costau, a chyfeirio at eitemau cynaliadwy lle bo’n berthnasol.
Nid yw First Hydro Company yn talu TAW ar nawdd neu roddion. Sylwer mai dim ond Ffurflenni Cais am Nawdd a Rhoddion a gwblhawyd yn llawn a gaiff eu hystyried ar gyfer asesiad, sy’n seiliedig ar un cais y flwyddyn.
Oni chymeradwyir yn benodol gan Dîm Rheoli First Hydro Company, fel arfer ni roddir cymorth i:
- Unigolion
- Teithiau a thripiau
- Hysbysebu
- Talu cyflogau i bobl
- Sefydliadau gwleidyddol, milwrol neu grefyddol
- Elusennau Cenedlaethol (oni bai bod yr elw llawn er budd lleol)
Bydd ceisiadau am nawdd a rhoddion, a cheisiadau am arian cyfatebol staff yn cael eu hadolygu a’u cymeradwyo, lle bo’n berthnasol, gan y Pwyllgor Cysylltiadau Cymunedol, sy’n cwrdd yn fisol, fel arfer ar ddechrau pob mis.
Dylid cyflwyno ceisiadau mewn da bryd i gael eu prosesu cyn pob cyfarfod.
Dylid nodi nad yw First Hydro Company mewn sefyllfa i warantu unrhyw gyllid, naill ai tu hwnt i’r gyllideb /blwyddyn ariannol gyfredol neu fel arall, ac o ganlyniad ni ddylid gwneud unrhyw ymrwymiadau i Glwb/Grŵp na Phrosiect y tu allan i’r amserlenni hyn.
Mesur Gwerth Nawdd a Rhoddion i First Hydro Company
Gall y broses o fesur buddion nawdd a rhoddion i First Hydro gynnwys:
- Effaith cyhoeddusrwydd e.e. sylw yn y cyfryngau
- Sylw/ymwybyddiaeth o First Hydro Company ymhlith y gymuned leol
- Sut mae perthnasoedd gyda chymunedau lleol yn cael eu sefydlu a/neu eu cynnal
- Gall unrhyw waith cymunedol gael ei ystyried fel cyfraniad First Hydro Company at ddatblygu cynaliadwy lleol
Ychwanegir gwerth at First Hydro Company fel busnes drwy wella perthnasoedd a chydweithio gydag unigolion, grwpiau cymunedol a busnesau lleol eraill.
I gael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais am Ffurflen Gais am Nawdd a Rhoddion, cysylltwch ar e-bost Claire.branston@engie.com