Safle ac Adeiladu
Wedi’i hagor gan Ei Fawrhydi Brenin Charles III ar 9 Mai 1984, gall yr orsaf gynhyrchu 1728MW o bŵer o fewn 12 eiliad i sefydlogi’r galw ar y Grid Cenedlaethol.
Adeiladwyd Gorsaf Bŵer Dinorwig ar safle chwareli llechi Dinorwig, a gaewyd yn y 1960au. Symudwyd y tomenni llechi i wella gwerth estheteg yr ardal, ac adeiladwyd yr orsaf bŵer yng nghrombil Mynydd Elidir Fawr, sydd bellach yn rhan o ardaloedd cadwraeth arbennig Eryri.
Mae pwmp/tyrbinau gwrthdroadwy Dinorwig yn gallu cyrraedd ei lefel gynhyrchu uchaf bron ar unwaith. Drwy ddefnyddio trydan y tu allan i oriau brig, mae’r chwe uned yn cael eu troi’n bympiau i gludo dŵr o’r gronfa ddŵr isaf yn ôl i Farchlyn Mawr.
Mae strwythurau uwchben y ddaear yn cynnwys y cyfadeilad gweinyddol a’r porthdy diogelwch. Mae SoDdGA daearegol wedi’i leoli ar hyd glannau Llyn Peris, sy’n dangos ôl rhewlifiant. Mae Llyn Padarn, y llyn y mae Dinorwig yn rhyddhau dŵr dros ben iddo, hefyd yn SoDdGA.